Description: C:\Documents and Settings\elin.rhys\My Documents\My Pictures\logotelesgopnewydd.JPG

 

 

 

Tystiolaeth

Teledu Telesgop cyf

I

Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

 

 

 

 

 

Diolch am y cyfle hwn i ddatgan barn.

 

CEFNDIR TELESGOP

Sefydlwyd Telesgop ym 1993 yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, gan symyd 8 mlynedd yn ôl i SA1, Glannau Abertawe.

Cyflogir 35 o staff llawn amser ac mae’r cwmni wedi buddsoddi yn sylweddol mewn offer camera a golygu HD dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae’r cwmni yn cynhyrchu rhaglenni teledu i nifer o sianelau erbyn hyn ond mae ein dibyniaeth ar S4C a BBC Wales yn sylweddol. Telesgop sydd yn cynhyrchu cyfres hir-dymor Ffermio i S4C, Bro, Y Goets Fawr, Y Porthmon a nifer sylweddol o raglenni dogfen.  I BBC Wales, mae Telesgop yn cynhyrchu rhaglenni dyddiol o’r Sioe Amaethyddol a rhaglenni a chyfresi ffeithiol. Mae cryn arbenigedd gennym ym maes dogfen ac yn darparu rhaglenni tu fas i Gymru hefyd- yn ddiweddar Wallis Simpson – The Secret Letters i Channel 4, Heath-Wisosn – The Duel i BBC FOUR, Home Front Britain i Discovery.

Mae ein trosiant (£3 miliwn) yn gymharol isel o ystyried y  nifer o oriau a gynhyrchir. Y rheswm am hyn yw mai rhaglenni dogfen yw prif gynnyrch Telesgop  ac, yn draddodiadol, mae cyllidebau rhaglenni ffeithiol lawer yn is yr awr na drama ac adloniant ysgafn.

Yn ogystal, rydym yn cynhyrchu gwefannau a sianelau ar y we ar gyfer busnesau masnachol, cyrff cyhoeddus a byd addysg. Rydym yn arbrofi gyda sianel leol yng Nghastell Nedd.

Mae 5 cyfarwyddwr yn berchen ar gyfranddaliadau yn y Cwmni, pob un yn aelod o staff .

Dros y blynyddoedd, ers cychwyn Telesgop, rydym wedi gweld sawl trawsnewidiad yn y diwydiant ac wedi goroesi. Yn bennaf :- darparu mwy o raglenni  am lai o arian yr awr er mwyn galluogi S4C i gynhyddu oriau wrth fanteisio ar sianel ddigidol; ymyrraeth y Cynulliad wrth iddyn nhw geisio gweithredu strategaeth o wthio a chefnogi tyfiant, ar draul cwmniau bach, er mwyn denu gwaith tu fas i Gymru. Mae argyfwng ariannol presennol S4C a BBC Cymru yn bygwth swyddi a safon ac yn codi cwestiynnau sylfaenol am allu y sector annibynol, yn gwmniau mawr a bach, i barhau mewn bodolaeth.

 

 

 

1. Cyflwr presennol y cyfryngau yng Nghymru a sut mae technoleg newydd a datblygiadau eraill yn effeithio ar hyn yng nghyd-destun pryderon parhaus ynghylch dyfodol y cyfryngau darlledu a phrint yng Nghymru.

O ddarllen y wasg a’r niferoedd o adroddiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar, fel ellid credu bod y cyfryngau yng Nghymru yn dirywio yn sylweddol a bron mynd â’i ben iddo.

Negyddol iawn oedd adroddiad Ofcom, er engraifft, oedd yn cyfeirio at y farchnad gyfathrebu.  Codwyd cwestiynau pwysig am lefelau cyllido darlledwyr cyhoeddus ar gyfer gwasanaethau darlledu yng Nghymru.

Disgynodd gwariant ar raglenni gwreiddiol  13%- sydd yn ostyngiad sylweddol uwch nag yng ngwledydd eraill Prydain Fawr. Disgynnodd cyfnaswm y gwariant 33%.

Mae gwariant ar raglenni cyffredinol (sef rhaglenni nad ydynt yn Newyddion) wedi disgyn 32% a gwariant ar gynnwys i wylwyr yng Nghymru gan y BBC ac ITV wedi disgyn £12m mewn 5 mlynedd. Mae’r gostyniad yn ariannu rhaglenni Saesneg yng Nghymru yn peri cryn ofid – yn enwedig o gofio nad yw teledu Prydeinig yn dangos fawr ddim o raglenni sydd am Gymru a’i phobol, na chwaith yn talu sylw i newyddion sydd yn bwysig i bobol Cymru.

Ac wrth droi at S4C, mae’r toriadau aruthrol diweddar yn beryglus iawn i economi y sector, swyddi i Gymry Cymraeg a hunan barch y Genedl.  O gofio bod S4C wedi bod yn flaengar a dewr wrth gofleidio a buddsoddi yn y dechnoleg ddigidol er 1998, gyda chwmniau annibynol yn aberthu elw a thyfiant er mwyn creu sianel lawn ar gyfer siaradwyr Cymraeg, mae’r ergyd  ariannol  ddiweddaraf yn enbyd.     

Mewn ymateb i’r cwestiwn cyntaf rhaid ystyried nifer o bwyntiau

·         Llwyddiannau’r Cynhyrchwyr Annibynol

Yng nghanol y negitifrwydd parhaus mae hi’n anghenrheidiol i dynnu sylw at lwyddiannau ysgubol y sector annibynol yng Nghymru er waethaf y sialensau anodd. Drwy’r cyfan fe lwyddodd cwmniau i dyfu yn gwmniau pwysig a chryf, nid yn unig o ran maint, ond o ran sgiliau, safon  a pharch yn y diwydiant byd eang. Mae hyn yn profi mor abl ac amryddawn y mae'r sector ac yn dystiolaeth gadarn bod y sector yn werth ei hamddiffyn.

Mae amrywiaeth  cwmnioedd yn ffactor bwysig.  Er yr ymdrech i berswadio cwmnioedd i uno rai blynyddoedd yn ôl, fe welir bod llwyddiannau ar draws y sector. Mae gennym sefyllfa o gwmnioedd -meicro,  bach , mawr, preifat a chyhoeddus. Mae enghreifftiau o lwyddiannau ar sianelau Prydeinig a Byd Eang. Mae lle i glodfori  y Cwmniau  hyn ac i sicrhau eu parhad.  Mae’r sector yn buddsoddi mewn talent ac yn ddarparwr hyfforddiant. Pobl a syniadau yw deunyddiau crai cwmniau annibynol ac mae buddsoddiadau eang yn y dechnoleg newydd a gwerthiant eiddo deallusol yn rhyngwladol, yn cyfrannu'n sylweddol at economi Cymru.  

Gweler isod restr bras iawn o lwyddiannau y dylem fod yn tynnu sylw atynt yng nghanol yr holl negyddiaeth.

Avanti-  Cyngerdd y Ryder Cup

Boomerang -  rhaglenni ar y gemau para-olympaidd,  a rhaglenni “extreme sports”,  i Channel 4 a gwaith i sianelau yn America.

Cwmni Da- arian datblygu a chomisiwn gan Channel 4

Dinamo – "Rastermouse", ac "Abadas" i CBeebies

Green Bay – "Ynysoedd" i National Geographic

Hartswood- "Sherlock"

Bulb ( Indus) – Bruce Parry, BBC

Machine – "Tati’s Hotel" i ITV

Presentable- "Only Connect" BBC 4

Rondo Media – 3 cyfres "Indian Doctors" i BBC1

Tidy - "Stella" i Sky

Tinopolis – a lwyddodd i dyfu a phrynnu rhai o gwmnioedd amlycaf Prydain ac erbyn hyn yn berchen ar gwmnioedd yn America

Telesgop – "Wallis Simpson, the Secret Letters" i Channel 4, "Heath Wilson – the Duel," "Turner on the Thames"  i BBC 4, "Home Front Britain" i Discovery

Mae’r uchod yn dangos amrywiaeth o gynnwys o Gwmniau o amrywiol faint yng Nghymru ac fe ddylem ymhyfrydu yn y llwyddiannau hyn, gan gofio hefyd mai bodolaeth S4C sydd yn bennaf gyfrifol am ganiatau i’r Cwmniau hyn ddatblygu ac esblygu yn Gwmniau o safon byd eang.

Fe nododd Hargreaves yn ei adroddiad:

‘The disappointment has been that so few companies in the Welsh independent production sector have matured into units capable of operating through the UK and beyond.’

Mae hi'n bwysig nodi nad yw Hargreaves yn gywir yn ei sylw. Mae cryn lwyddiant wedi bod tu fas i Cymru. Y rheswm pam na chafwyd llwyddiant yng nghynt yw gwendidau yn agwedd y sianelau y rhwydwaith i Gymru a chwmniau annibynol sydd yn gweithio i S4C, ac nid bod diffyg aeddfedrwydd na gallu gan gwmniau yng Nghymru..

Mae’r sylwadau negyddol a geir am safon rhaglenni ar S4C yn anheg iawn yn enwedig o gofio mai cyllidebau bach dros ben sydd ar gael ar gyfer rhaglenni S4C o’i gymharu â sianelau eraill  Prydain Fawr. 

Mae yna gyhuddiadau yn cael eu gwneud am gwmniau annibynol eu bod yn or-ddibynol ar S4C.  Eto mae yma anhegwch yn hyn. Mae digon o engreifftiau lle mae cwmniau yn Llundain a’r Alban sydd yn ddibynol ar un darlledwr yn unig. Yn wir, fe ellid dadlau, wrth weithio i fwy nag un darlledwr mae cwmni anibynnol yn dod yn "ddibynnol" arnynt i gyd – ac os oes un ffynhonnell arianol yn diflannu, mae hyn yn peryglu dyfodol y cwmni. Mae hyn yn sicr ynwir yn ein hachos ni.

Yn ogystal, fe wnaeth nifer o gwmniau gofleidio technoleg newydd gan greu strategaethau addas ar gyfer datblygu yn y ffordd honno, er waetha’r ffaith nad oes incwm sylweddol i’w wneud ar hyn o bryd yn y maes – ag eithrio ym maes animeiddio. Serch hynny, teledu yw’r maes pwysicaf o hyd a hynny sydd yn caniatau i gwmnioedd arbrofi ym maes digidol. (mwy nes mlaen)

·         S4C

Dros y blynyddoedd mae S4C wedi bod yn fwy na darlledwr - mae wedi bod yn feithrinfa, yn llestr i finiogi sgiliau, wrth i gynhyrchwyr a chyfarwyddwyr fagu hyder i gymaint graddau eu bod yn gallu cystadlu gydag eraill llawer mwy breintiedig o ran cyllidebau dros y ffin.

Mae yr Athro Ian Hargreaves yn datgan yn ei adroddiad ef gymaint yw pwysigrwydd S4C i’r sector gynhyrchu yng Nghymru.

Mae’n bwysig i nodi hefyd mai prin iawn yw’r diwydiannau masnachol yng Nghymru lle mae staff yn gallu gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyfangwbwl. O gofio bod addysg Gymraeg yn sicrhau bod pobol ifanc Cymru yn gallu trin a thrafod pynciau drwy’r Gymraeg, teg yw nodi bod y sector annibynol yn caniatau i’r Gymraeg fod yn bresennol a gweithredol yn y gweithle tu faes i fyd addysg. Mae hyn yn hollbwysig.  Gall y genedl ddim fforddio colli y sector gynhyrchu annibynol am y rheswm hwn – sydd cyn bwysiced â’r ddadl economaidd.

O ganlyniad felly, mae sicrhau cyllideb ddigonol i gadw’r diwydiant ar ei draed yn hanfodol, ac mae’n rhaid pwyso am sicrwydd ac ymwymiad ar gyfer y dyfodol.

Yn sicr fe fydd sialens yn wynebu Ian Jones, Prif Weithredwr newydd S4C, wrth strwythuro y sianel er mwyn sicrhau bod cyn-gymiant o’r gyllideb yn mynd tuag at y sector annibynol.

Wrth ymateb i bwyllgor y Cynulliad fe nododd S4C bod cost cyfartaledd yr awr wedi disgyn o swm (oedd eisoes yn affwysol o isel o'i gymharu a sianelau eraill) o £41000 i £32,000. Yn ogystal mae nifer y rhaglenni wedi cael eu torri - tau 230 yn llai flwyddyn nesaf. Mae oblygiadau difrifol i hyn o ran safon a dyfodol y busnesau.

Mae gan S4C gronfa o arian masnachol a ellid cael ei ddefnyddio er mwyn lleihau costau mewnol y sianel ei hun, ac ychwnaegu at wariant rhaglenni. Credwn y dylid manteisio ar bob cyfle i docio ar wario di-angen biwrocrataidd y sianel er mwyn gosod gwerth ar sgrin a chefnogaeth i'r economi.

Mae cwmniau annibynol yn aeddfed a phragmataidd - gyda nifer ohonynt wedi son am sut y gellid cyd-weithio er mwyn arbed arian tra'n parhau i gynhyrchu gwaith safonol, cyn belled â bod sefydlogrwydd ariannol dros gyfnod o amser. Mae hynny yn gweud synnwyr llwyr mewn cyfnod o argyfwng.  Mae'r broses gomisiynnu bresennol yn annog y gwrthwyneb i hyn ac yn gorfodi cwmnioedd i gystadlu, weithiau drwy dendro, er mwyn ennill gwaith - proses sydd yn aml yn costio yn ddrud i gwmnioedd ac sydd fel arfer yn arwain at lai o arian wedi ei wario ar y sgrin.   

Mae Cadeirydd newydd S4C, Huw Jones, wedi datgan mewn cynhadledd IWA eleni ei fod yn anelu at sianel ‘llai ond mwy effeithiol’. Mae'n son y bydd y toriadau mewnol yn S4C yn cyfateb i’r toriadau i’r cyllid rhaglenni o ran canran - ond mae'n anodd deall pam na all S4C wneud toriadau llawer pellach na hynny.

Un o fanteision sicr Ian Jones fel Prif Weithredwr yw ei brofiad ym maes cyd-gynhyrchu a gwerthiant rhaglenni. Mae sianelau eraill yn llawn engreifftiau o gyd- gynhyrchu. Dros nifer o flynyddoedd bellach fe fu S4C yn ymwrthod rhag gyd-gynhyrchu - un ddadl ganddynt yw nad yw y  Gynulleidfa Gymraeg yn tueddu gwylio rhaglenni o'r math gan fod niferoedd o sianelau eraill ar gael lle gellid gweld rhaglenni gyda blas rhyng-wladol. Gwell gan y gynulleidfa Gymraeg weld rhaglenni sydd â naws Gymreig- o bosib mae hyn yn anochel gan nad oes modd gweld  rhaglenni am Gymru ar unrhyw sianel arall - gyda chyfleoedd BBC Wales yn prysur ddiflannu hefyd. Goebithio y bydd modd cael rhyw gyd-bwysedd gyda chyfleodd i fanteisio ar arian cyd-gynhrychu er mwyn cynyddu gwerth ar y sgrin - ond drwy gadw y cyfresi hynny sydd yn allweddol i ni fel cenedl.

 

 

·         BBC

Rhwydwaith.

O'n profiad ni y mae ein perthynas gyda'r BBC wedi gwella, gyda llawer mwy o gyfleoedd i gwmnioedd tua fas i'r M25 i ennill comisiynnau ar y rhwydwaith. Mae hi wedi bod yn frwydr hir i ennill y profiad a'r parch ac mae llawer o ffordd i fynd eto. Un anfantais ar hyn o bryd i gwmniau yn y Cenhedloedd yw bod yn rhaid mynd drwy haen o swyddogion nad sydd ganddynt y gallu i gomisiynnu - maent fel rhyw "gatekeeper" neu - "go-between". Mae hyn yn rhwystredig tu hwnt. O'n profiad ni mae pob un comisiwn sydd wedi ei ennill gan y BBC yn deillio o'r faith ein bod wedi mynd dros ben yr unigolion hynny yn syth at gomisiynnwyr go iawn a rheolwyr sianelau unigol. O ganlyniad, rydym yn croesawu cyhoeddiad Rhodri Talfan Davies, sef Cyfarwyddwr  newydd BBC Cymru/Wales, y bydd swydd ddylanwadol pennaeth rhaglenni dogfen rhwydwaith yn cael ei leoli yng Nghymru.

Mae pwysigrwydd cael targedau/cwotas er mwyn sicrhau bod canran o waith cynhyrchu yn mynd i'r sector annibynol, ac i gwmniau tu fas yr M25 yn hanfodol a rhaid brywdro i sicrhau na fydd hyn y cael ei ddileu. Byddai hynny yn gam sylweddol tua nôl. Yn ogystal fe ddylid sicrhau nad yw cwmniau o tu fas i Gymru yn cael eu hannog i agor swyddfa yma gyda'r pwrpas o fanteisio ar y cwotau - sefyllfa sydd yn achosi cryn rwystredigaeth ar hyn o bryd.

BBC Wales

Yn yr oes aml-sianel sydd ohoni, y mae yna dristwch mawr nad oes modd atgyfodi BBC2W- sianel wedi ei neilltuo ar gyfer rhaglenni Saesneg am Gymru. Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i raglenni BBC Wales ffitio o fewn "opt-outs" y rhwydwaith ac mae nifer y slotiau hynny yn prinhau. Mae Menna Richards, cyn reolwr BBC Cymru/Wales wedi datgan ei gofidiau yn glir yn y wasg yn ddiweddar am y dirywiad mewn gwasanaethau Saesneg yng Nghymru.

Mae cynllun Darpariad Cynnwys Gyntaf - DQF - (Delivering Quality First) yn nodi bod ymrwymiad pellach i Gymru, yr Alban ac Iwerddon. - ac mae hyn i'w groesawi.

Eto mae yna doriadau - 10% ar gynnwys - ac mae hyn yn mynd i waethygu sefyllfa y sector annibynol yn sicr.

·         BBC ac S4C - y dyfodol!

Yn dilyn yr holl drafod, ymgyrchu, dadlau a negydu, ein teimlad, wedi clywed y cyhoddiad am ffurf y berthynas newydd, yw ei fod yn gyfaddawd da. Yn sicr, "top-sleisio" y ffi drwydded fyddai’r canlyniad gorau - gydag S4C yn cael yr hawl i reoli yr arian hwnnw heb orfod talu gwrogaeth i sianel arall. Ond gan fod hynny, mae'n debyg, yn amhosib, mae'r cydweithio a'r drefn newydd tan 2017 yn swnio yn rhesymol a chall.

Rhaid cofio un peth sylfaenol bwysig. Nid yw BBC Llundain yn deall beth yw bod yn Gymro/Gymraes gyda'r angen naturiol am gael sianel deledu yn ein hiaith ein hun. Bob tro yr ydym wedi sgwrsio am y mater - (sydd yn go amal erbyn hyn), gyda swyddogion a staff BBC Llundain, maen nhw'n gweld y peth fel achub iaith - dyw nhw ddim yn deall y cysyniad fod pobol yn byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg, yn breuddwydio a meddwl yn Gymraeg, ac yn berchen ar feddylfryd sydd yn gynhenid Gymreig - a gwahanol i feddylfryd pobol Lloegr sydd yn  byw a bod yn Saesneg.

Mae'r cyfaddawd presennol i raddau yn wyrthiol. Rhaid cydnabod cyfraniad Elan Closs Stephens (ymddiriedolwr y BBC yng Nghymru), a Huw Jones (Cadeirydd newydd S4C) i'r broses a'r canlyniad hwn lle mae annibyniaeth S4C fel darlledwr yn cael ei warchod a lle mae ymrwymiad tan 2017.

Dyma rai o sylwadau Chris Patten (Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC), sydd yn codi calon:-

"the joint partnership board will deliver closer collaboration between S4C and the BBC contributing to the efficiency targets established in the Operating Agreement, as well as BBC Wales’ own efficiency targets.  Any savings that S4C realised from such collaboration would be reinvested in S4C content."

‘With our executive teams working together to reduce unnecessary operational duplication, I would expect that the funding available to S4C for commissioning Welsh language programming from the independent sector in Wales can be maintained, or indeed increased, in the period of the licence fee funding from 2013/14 to 2016/17.   

·         ITV Cymru

Testun cryn dristwch eto gan fod y sianel wedi bod mor bwysig yn natblygiad y sector annibynnol yn y gorffennol.

90 munud yn unig y mae'r sianel yn ei ddarlledu yr wythnos tu fas i oriau newyddion a phrin yw unrhyw gomisiynnau i'r sector.

Erbyn hyn, yn hytrach na chomisiynnu rhaglenni gan y sector, mae ITV Wales bellach yn cystadlu yn ein herbyn ar gyfer comisiynnau S4C.   

Mae cryn ddadleuon wedi dod gerbron bod yn rhaid cael plwraliaeth barn yng Nghymru, a bod parhad ITV Wales yn hanfodol i hynny. Efallai bod y dydd wedi dod pan mai moethusrwydd yw plwraliaeth na ellir ei fforddio bellach!

 

·         Teledu Lleol

Yr ateb, o bosib, i ddiffyg plwraliaeth yw teledu lleol. Yn sicr mae llywodraeth Cameron yn gweld hyn fel y ffordd ymlaen. Mae Telesgop wedi bod yn arbrofi gyda sianelau lleol ar y we - ac wedi buddsoddi yn sylweddol mewn un fenter yng Nghastell Nedd. Fe allwn ddweud gyda llaw ar galon bod y broses hyd yma yn llafurus, di-ddiolch, sydd yn gwneud dim incwm o gwbwl. Amser a ddengys os bydd yna welliant i'r sefyllfa hon - ac rydym yn parhau i frwydro. Sianel ar y we yw fyi-Neath - mae'n anodd gwybod os fyddai hyn yn gweithio ar deledu confensiynnol. Fe fyddai yn well gennym pe byddai y gefnogaeth ariannol yn dod ar gyfer prosiectau lleol ar y we yn hytrach na theledu ar hyn o bryd.

 2.  Beth ddylai’r blaenoriaethau fod o safbwynt Cymru wrth i Lywodraeth y DU gyflwyno cynigion ar gyfer ei Bil Cyfathrebu.

Yn seiliedig ar y pwyntiau wnaed uchod dylid pwysleisio pwysigrwydd y sector ddarlledu i economi Cymru, ac i'r iaith Gymraeg a'n diwylliant.

Rhaid diogelu cyllideb deg ar gyfer ariannu y sector greadigol at y dyfodol - gan ddiogelu unrhyw dargedau/cwotau mewn lle gan ddarlledwyr i sicrhau gwaith tu fas i Lundain,  yn y cenhedloedd unigol, ac i’r Sector Annibynol.

Er mwyn gwireddu yr uchod rhaid wrth berthynas agosach rhwng y DCMS â'r Cynulliad. Pe byddai y DCMS wedi cadw at y drefn o adolygu S4C yn 2003, yn unol â'r ddeddf gyfathrebu ni fyddai y cawdel wedi digwydd ym 2010 pan wnaed penderfyniad cyflym dros nos i geisio arbed arian ac achub sianel fel rhan o'r adolygiad gwariant cyhoeddus.   

Rhaid sicrhau nad oes cymhariaethau hollol anghywir yn cael eu gwneud rhwng sefyllfa S4C â BBC Alba. Mae diffyg dealltwriaeth yn rhan annatod o sylwadau o'r fath, ac maent yn arwain at ddrwg-deimlad amhleserus. Mae'r mater yn codi ym mron pob trafodaeth answyddogol wrth sgwrsio gyda chydweithwyr yn Llundain, ac mae'n amlwg nad yw uchel swyddogion yn deall pwysigrwydd y Gymraeg a Chymreictod yng Nghymru. Efallai yn wir fod bai arnom ni fel cenedl nad ydym yn llwyddo i berswadio/cyfleu/arddangos ystyr ein Cymreictod. Fel engraifft - wrth geisio perswadio un o uchel swyddogion BBC Llundain i wneud rhaglen ar Gymru - un ymateb oedd "yes but what has Wales got? Scotland has whisky and Kilts - what has Wales got?" Cyn beio diffyg y person hwn efallai y dylem ystried o ddifri y ddelwedd yr ydym y ei gyfleu fel  Cenedl ar hyn o bryd.

 

 

 

 

3.  Y cyfleoedd i adeiladu model busnes y cyfryngau newydd yng Nghymru.

Mae'r testun hwn yn ddifyr ac yn gymhleth. Fel y cyfeirwyd ato uchod ar fater Teledu Lleol, anodd iawn yw hi ar hyn o bryd i greu menter fasnachol ar y we. Mae Telesgop hefyd yn rhedeg sianel amaethyddol - Ffermio.tv - ac yn ei chael hi bron yn amhosib i greu incwm yn yr hinsawdd ariannol bresennol.

Rydym yn frwd am greu gwefannau ac am ddefynddio Facebook a Twitter i hybu rhaglenni, a lledaenu negeseuon. Tan i ni greu model lwyddiannus, serch hynny, er mwyn sicrhau bod y deynydd yn safonol a bod cynydd yn y defnydd, araf iawn fydd y datblygiad- yn enwedig yn yr iaith Gymraeg.

Nid yw darlledwyr yn helpu yn hyn o beth chwaith. I raddau, er bod brwdfrydedd wedi bod rhai blynyddoedd yn ôl at ddarlledu 360gradd - prin iawn yw'r son am hyn ar hyn o bryd.

Yr unig gyfle i ddatblygu modelau cyfryngau newydd ar hyn o bryd yw drwy grantiau llywodraeth am ran o’r cyllidebu.

Yn fasnachol, mae’n rhaid wrth ddeddfau mwy llac o ran eiddo deallusol, ac mae angen creu partneriaethau gyda mudiadau addysg a llywodraeth leol.  Mae strategaeth fusnes Telesgop o ran sianelau lleol ar y we yn dibynnu ar gael ein talu gan lywodraeth leol am ddosbarthu gwybodaeth ar eu rhan – rhywbeth a ddaw yn bwysicach gydag amser, wrth i fwy ddefnyddio y we, ac wrth i lywodraethau lleol benderfynnu defnyddio llai o bapur i hysbysebu eu gwasanaethau. Ond yn y cyfamser mae yna broblemau ariannu.

4.  Beth mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i roi argymhellion adroddiad Hargreaves ar waith a pha gamau eraill y gellid eu cymryd i gryfhau’r cyfryngau yng Nghymru o ran cynnwys a lluosogrwydd y ddarpariaeth.

Mae nifer o agweddau da yn adroddiad Hargreaves ond nid yw hi’n amlwg beth sydd ar waith i roi ei argymhellion ar waith.  I fod yn onest, mae yr holl adolygiadau, adroddiadau, ymchwiliadau yn dechrau bod yn feichus. Hoffwn petae y gwariant sydd yn cael ei neilltuo ar baratoi adroddiadau o'r fath yn cael ei ddefnyddio yn uniongyrchol i hybu datblygiadau cwmnioedd!

Yn y gorffennol fe fu ymyrraeth gan y Cynulliad i’r math o gwmniau  ddylai fod yn aelodau o’r sector - yn benodol eu maint o ran trosiant. Fe fu strategaeth i gonsolideiddio cwmnioedd gan feddwl y byddai hynny yn arwain at fwy o waith i gwmniau Cymru oddiwrth sianelau Prydeinig.  Fel cwmni, roeddem yn anghytuno gyda’r strategaeth honno am nifer o resymau. Yn gyntaf, nid yw sianelau Prydeinig yn comisiynnu ar sail maint cwmni – dydyn nhw erioed wedi.  NId oes tystiolaeth bod y cwmniau mwy yng Nghymru heddiw yn fwy llwyddiannus tu fas i Gymru na'r cwmniau llai.

Yn ail, mae cwmniau yn dewis dilyn eu llwybrau eu hunain oherwydd eu hangerdd, profiad, gweledigaeth  fel busnesau unigol. I rai, uno, prynnu, tyfu, gwerthu yw’r atebion hollol gywir- fel y mae llwyddiant Boomerang a Tinopolis yn ei ddangos. I eraill, tyfu yn organig, anelu at farchnad arbennig a “niche”, canolbwyntio ar greadigrwydd, yw’r hyn sydd yn eu cyflyrru i fynd amdani. Rhaid parchu  dymuniadau unigol pob menter fusnes, bach neu fawr. Gobeithiwn na fydd y Cynulliad, yn sgil adolygiadau parhaus ac argraffiadau arwynebol , yn gwneud yr un camgymeriad eto yn y dyfodol.

Mae y rhestr a nodwyd uchod o lwyddiannau cwmniau annibynnol dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn dangos yn glir bod mentergarwch yn talu ar ei ganfed pan mae’n cael y rhyddid a’r gefnogaeth i ddatblygu mewn ffordd naturiol, yn deillio o ethos unigryw pob cwmni.  Ar y llaw arall, mae  rhaid cael cefnogaeth y Cynulliad i sicrhau y rhyddid hyn. Mae angen cefnogaeth ariannol ar gyfer prosiectau arbennig – ac mae angen i’r genfogaeth fod yn hyblyg.

O ran cymorth ariannol fe gafodd Telesgop grant SIF ar gyfer prynnu offer golygu ac at dyfu nifer y staff. Bu bron i fiwrocratiaith a diffyg hyblygrwydd achosi i’r Cwmni fynd i’r wal.  Rydym serch hynny yn gwerthawrogi cymorth ambell i unigolyn doeth a deallus o fewn y sustem a wnaeth ein helpu yn y cyfnod hwnnw.

Yn sgil y cymorth hwn fe wnaeth Telesgop fynd o nerth i nerth gan ennill comisiynnau uchelgeisiol a phwysig sydd wedi ennill cryn ganmoliaeth tu hwnt i’r ffin. Mae hwn felly yn engraifft lle y gwnaeth grant wneud byd o wahaniaeth i ddyfodol cwmni – mwy nag a wnaeth unrhyw arolwg neu strategaeth erioed. Cymorth uniongyrchol, ymarferol sydd ei angen. Ac i’r perwyl hynny fe fyddem yn hapus dros ben i gyfrannu tuag at unrhyw drafodaethau.

Yn olaf, ond yr un mor bwysig, credwn bod angen cymorth y Cynulliad i ddileu un argraff camarweiniol am S4C, sydd wedi creu cryn ddrwg-deimlad, ac wedi arwain yn rhannol at ofidiau S4C flwyddyn yn ôl – sef y ffigyrau gwylio.

Roedd hi’n ymddangos fel tase yna ymgyrch gan y wasg , y cyfryngau, ac aelodau o’r Cynulliad i ddinistrio S4C drwy ladd ar ffigyrau gwylio. Mae S4C yn sianel unigryw gyda swyddogaeth bron amhosib i’w chyflawni. Fe ddylid mynd ati i ganfod ffyrdd newydd o fesur llwyddiant neu fethiant rhaglenni'r sianel heb ddefnyddio BARB fel y ffon fesur - gan ei bod yn gamarweinol hollol. Rydym ar-ddeall bod BBC Alba yn defnyddio ffordd wahanol. Cyn bod y dulliau presennol o gyfri gwylwyr yn cael eu defnyddio at y dyfodol  gan achosi problemau eto i sianel sydd â chanddi sialensau anferth, rhaid mynd i'r afael â chanfod mesur tecach, mwy realistig.

Elin Rhys - Rheolwr Gyfarwyddwr Teledu Telesgop cyf. 14/11/11